Cynhyrchwyr y Graig

(Cymru a’r Gororau )

Ffermwyr Organig yn gweithio gyda’i gilydd

 





English Version

Defnyddio ffeiliau PDF

Rydym yn gobeithio y byddwch yn cael y dogfennau hyn y gellir eu lawrlwytho’n fuddiol. Maent i gyd ar ffurf PDF. Gellir eu hargraffu’n uniongyrchol oddi ar dudalen y wefan. Os na allwch ddarllen ffeiliau pdf Adobe ar eich cyfrifiadur, gallwch lawrlwytho’r feddalwedd briodol fan hyn

 

Ffurflenni Ymaelodi

Nodiadau Cyflenwi

 

DOGFENNAU AELODAETH  
Ffurflen Gais am Aelodaeth : Ffurflen pdf i’w chwblhau fel rhan o’r broses gais. Dylech ei lawrlwytho, ei chwblhau a’i dychwelyd at Gynhyrchwyr y Graig yn y cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Ffurflen Dalu am Aelodaeth Ffurflen pdf yw hon i sefydlu cyfarwyddyd Archeb Sefydlog gyda’ch banc ar gyfer tâl aelodaeth Cynhyrchwyr y Graig. Nid yw’n ofynnol ond ar gyfer Aelodaeth Gyflawn.

Manylion a Chostau Aelodaeth Am fanylion pob math o aelodaeth a’i gos

NODIADAU CYFLENWI
Fel rhan o’r gwaith papur anochel sy’n gysylltiedig â chyflenwi da byw organig i ladd-dy, mae gennym gopïau o’n nodiadau cyflenwi ein hunain y gallwch eu lawrlwytho, yn ogystal â’r rheini gan y prif ladd-dai.

D.S.

O fis Ionawr 2010, bydd yn rhaid wrth wybodaeth newydd ar y Gadwyn Fwyd i bob llwyth newydd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn y Nodiadau Cyflenwi newydd. Fodd bynnag, yn achos lladd-dai Vion (WCF a St Merryn) ceir Taflen Wybodaeth ychwanegol i’r Gadwyn Fwyd i’w chwblhau, OS na allwch wneud yr holl ddatganiadau ar y daflen gyflenwi.

Rhestrir y ffurflenni ychwanegol hyn i’w lawrlwytho isod.

Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech gysylltu â swyddfa Cynhyrchwyr y Graig (01597 851704).

Nodyn Cyflenwi Cynhyrchwyr y Graig.

Am yr holl stoc sydd wedi’i gyflenwi i ladd-dy, mae angen i ni dderbyn y rhan uchaf o nodyn cyflenwi Cynhyrchwyr y Graig , naill ai trwy’r post neu drwy ffacs i fferm y Graig. Os oes nodiadau cyflenwi argraffedig gennych, gallwch gopïo’r rhain mor aml a fynnoch. Fel arall, cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho pdf y nodyn cyflenwi y bydd angen i chi ei argraffu, ei lenwi â llaw a’i dychwelyd atom ar gyfer pob batsh o dda byw sy’n cael ei werthu. Dylech gofio llofnodi a dyddio’r ffurflen. Yn anffodus, ni allwn gwblhau taliadau i chi heb y Nodyn Cyflenwi gorffenedig.

Nodyn cyflenwi ABP

Nodyn cyflenwi Dunbia (defaid)

Nodyn Cyflenwi Welsh Country Foods

Ffurflen Wybodaeth Cadwyn Fwyd Welsh Country Foods

Nodyn Cyflenwi St Merryn (cig oen)

Nodyn Cyflenwi St Merryn (Gwartheg)

Ffurflen Wybodaeth Cadwyn Fwyd St Merryn (gwartheg neu ddefaid)