Croeso i Wefan Cynhyrchwyr y Graig

(Cymru a’r Gororau )

Ffermwyr Organig yn gweithio gyda’i gilydd






English Version

Grŵp marchnata arbennig ar gyfer da byw organig yw Cynhyrchwyr y Graig, sy’n cyflenwi cig eidion a chig oen i’r sector manwerthu lluosog. Mae ein haelodau sy’n ffermio yn cael llawer o fanteision sydd ynghlwm â’u haelodaeth, heb sôn am farchnad ar gyfer eu stoc.

 

Cynhyrchwyr y Graig


Sefydlwyd Cynhyrchwyr y Graig yn gynnar yn y 1990au i gyflenwi amrywiaeth o stoc i’r brand organig arloesol, Graig Farm Organics, ar gyfer eu cigoedd organig arobryn o’r radd flaenaf.

Ers hynny, mae wedi tyfu i gynnwys dros 350 o ffermwyr organig ar draws Cymru a’r Gororau sy’n cydweithio i farchnata eu da byw, yn bennaf trwy sector yr archfarchnadoedd.

Yn 2006, sefydlwyd Graig Producers South West i gynnwys de-orllewin Lloegr. Mae Cynhyrchwyr y Graig hefyd yn cynrychioli buddiannau’r gydweithfa da byw organig yn yr Alban Caledonian Organics.

Gall cydweithio greu llawer iawn o fanteision i’r cynhyrchwyr a’r defnyddwyr. Gall ein haelodau sy’n ffermio gynhyrchu beth sydd ei eisiau ar y defnyddiwr – cyflenwad cyson o dda byw organig uchel ei ansawdd, gyda hanes bendigedig y tu ôl iddo. A gall defnyddwyr fod yn sicr bod y bwyd y maent yn ei fwyta’n cael ei gynhyrchu yn y DU i safonau uchel o ran lles anifeiliaid a chyda’r effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd.

Gall y cynhyrchydd elwa trwy gael mwy o ddylanwad yn y farchnadfa a chael corff marchnata proffesiynol sy’n cynnig amrywiaeth o fanteision i’w fusnes ffermio.

Mae Cynhyrchwyr y Graig yn agor y gadwyn fwyd ac mae ganddynt gysylltiadau rheolaidd ag archfarchnadoedd a’u proseswyr.

Rydym yn falch o gynnig fersiwn Cymraeg o’n prif wefan. Dylid nodi fodd bynnag gan nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang yma yn Sir Faesyfed, yn anffodus, ni fydd ein staff lleol yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn neu drwy’r post yn y Gymraeg ar hyn o bryd.


PAM YMAELODI?

Sut mae ymaelodi