



Mae ein hardal newydd i Aelodau’n Unig yn rhoi i aelodau CyG fynediad i amrywiaeth eang o wybodaeth fuddiol a gostyngiadau o ran eu gweithrediadau ffermio a chynigion arbennig ar ystod o nwyddau a gwasanaethau eraill.
I gael mynediad i’r ardal, rhaid i chi fod yn aelod o CyG ac wedi talu’ch tâl aelodaeth a chwblhau’ch ffurflen aelodaeth flynyddol. Yna, rhoddir Cyfrinair ac Enw Defnyddiwr i chi.
I fynd at ein hardal i Aelodau’n Unig, cliciwch yma, ond byddwch yn barod â’ch Cyfrinair ac Enw Defnyddiwr.
Ar hyn o bryd nid yw’r rhan hon o’n gwefan ar gael yn y Gymraeg.
Mae arweiniad cam-wrth-gam ar gael yn Saesneg i ddangos i chi sut i wneud y gorau o’r Ardal Aelodau’n Unig ar y wefan. Lawrlwythwch yma.
Y gwasanaethau sydd ar gael yw:
GOSTYNGIADAU A CHYNIGION ARBENNIG I AELODAU
COW PATTER - fforwm ar-lein i’r ffermwr da byw organig
PRISIAU DA BYW HEDDIW
Prisiau eidion organig da byw, Buchod i’w Difa, eidion dros 30 mis (30-48 mis) ac ŵyn ar gael ar dudalen agoriadol yr ardal Aelodau’n Unig.
Er bod prisiau da byw heddiw’n ddefnyddiol, mae hefyd yn bwysig gweld lle mae’r prisiau hyn yn gorwedd yn nhueddiadau’r tymor. Mae prisiau hanesyddol ar gael ar ffurf graffiau ar gyfer eidion organig, buchod organig i’w difa ac ŵyn organig.

Mae gan bob lladd-dy grid o bremiymau a chosbau i annog danfon anifeiliaid sydd o’r maint a’r siâp angenrheidiol. Mae’r gridiau hyn yn amrywio o’r naill ladd-dy i’r llall. Mae’r gridiau cyfredol ar gael i bob rhywogaeth a phob lladd-dy sy’n cael ei gyflenwi gan Gynhyrchwyr y Graig

CANLLAWIAU A LLYFRGELL AR-LEIN
Mae amrywiaeth eang o adroddiadau a chanllawiau buddiol ar gael i’w darllen. Ar hyn o bryd, maent o dan y penawdau canlynol:

Amrywiaeth o fewnbynnau am brisiau gostyngol i arbed arian i chi ar eich fferm. Gellir archebu ar-lein er hwylustod.
Mae’r mewnbynnau’n cynnwys: 