



Ceir tri math o aelodaeth. Cyflawn, Wrthi’n Troi a Godro.
Aelodaeth Gyflawn :
Bwriedir aelodaeth gyflawn i ffermwyr da byw organig ac mae’n rhoi’r hawl i aelodau ddefnyddio holl wasanaethau’r Grŵp.
Wrthi’n Troi :
Mae Wrthi’n Troi i ffermwyr sy’n cychwyn ar y broses droi’n organig.
Godro :
Aelodaeth rad yw aelodaeth odro ar gyfer ffermwyr godro sydd eisiau marchnad i fuchod organig i’w difa.
Cost a manteision aelodaeth :
Ceir manylion y gwahanol gostau a manteision y categorïau aelodaeth yma.Ceir manylion manteision i aelodau yma.
I ymuno â ni, y cwbl sydd ei angen arnom yw Cytundeb Aelodaeth wedi’i gwblhau, ynghyd â’ch taliad, naill ai gyda siec neu drwy ddebyd uniongyrchol gyda gostyngiad.
Ni allwn farchnata’ch stoc neu ddarparu mewnbynnau i chi nes bod eich aelodaeth wedi’i thalu’n llawn.
Os ydych am fanteisio ar ein gostyngiad Debyd Uniongyrchol, cwblhewch y Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol. Mae sut i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn cael ei egluro yn ein Canllawiau Debyd Uniongyrchol. Unwaith i chi’i gwblhau, dychwelwch y Cytundeb Aelodaeth a’r Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol neu siec atom trwy’r post.
Byddwn yn gyrru anfoneb TAW gyda derbynneb atoch am yr holl daliadau aelodaeth a dderbynnir.
Bellach, mae angen gwarant fferm ar gyfer yr holl brif ladd-dai rydym yn delio â nhw. Heb Warant Fferm, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu gwerthu’ch da byw yn y marchnadoedd gorau, am y prisiau gorau. Os nad oes Gwarant Fferm gennych, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â’ch corff ardystio ynglŷn â threfnu arolygon Gwarant Fferm y gellir eu cynnal yr un pryd â’ch arolygon organig.