



I ffermwyr sydd Wrthi’n Troi’n Organig:
I ffermwyr godro organig rydym yn cynnig :
Rhai manteision i Aelodau :
Stoc Stôr - Gwerthu a phrynu stoc stôr oddi mewn i’r grŵp – cysylltwch â swyddfa’r grŵp cynhyrchu i ddarganfod mwy ar 01597 851704, neu ymwelwch â’n gwefan Stoc Stôr - Organic Stores
Mae Cynhyrchwyr y Graig wedi llwyddo drwy drafod i gael prisiau arbennig ar gyfer Hadau Porthiant a Gwrteithiau yn ogystal â Thagiau Clust i ŵyn, oherwydd ein grym wrth brynu fel grŵp mawr. Gallech wneud arbedion sylweddol ar eich costau mewnbynnau trwy brynu trwy’r grŵp – ffoniwch swyddfa’r Grŵp Cynhyrchwyr am fwy o fanylion neu er mwyn trafod eich gofynion arbennig – Ar gael cyn bo hir i’w harchebu ar-lein.
Meddalwedd Ffermio Organig - Mae Cynhyrchwyr y Graig wedi datblygu pecyn meddalwedd unigryw yn benodol i ffermwyr organig i helpu â rheoli, cadw cofnodion a monitro costau cynhyrchu. Mae hyd yn oed yn cynhyrchu dogfennau parod ar gyfer ymweliadau arolygon organig. Mae disgiau di-dâl ar gael i’w treialu ar gais gan swyddfa’r Grŵp Cynhyrchwyr (01597 851704). Beth am gael gwybod mwy am y meddalwedd ffermio hwn - Farm IT300.
DS. Prisiau cynnig arbennig i aelodau o’r Grŵp. Gweler ein hadran Affineddau neu cysylltwch â swyddfa’r Grŵp.
Grwpiau Lleol - Mae Cynhyrchwyr y Graig wedi’i sefydlu ar sail leol, yn union fel y cychwynnodd y fenter. Mae Cydgysylltydd Lleol i bob ardal sydd hefyd yn ffermwr sy’n aelod o’r Grŵp. Maent yno i weithredu fel man cyswllt lleol i’r Grŵp, i drefnu cyfarfodydd lleol ac i weithredu fel ffynhonnell wybodaeth am y Grŵp.
Yswiriant Da Byw - Mae Cynhyrchwyr y Graig yn yswirio’r proseswyr fel y gall aelodau fod yn hyderus y bydd taliadau’n cael eu talu hyd yn oed os bydd y Prosesydd yn methu’n ariannol.
Cynllun Affinedd - mae gan aelodau hawl i ystod o fanteision a gostyngiadau a llawer iawn o wasanaethau (manylion llawn ar-lein cyn bo hir)