BETH RYDYM YN EI WNEUD
EIN DIBEN
Prif ddiben Cynhyrchwyr y Graig yw cadw aelodau sy’n ffermio’n organig ar y tir trwy helpu i sicrhau hyfywedd ariannol. Gwneir hyn trwy:
- Gynyddu incwm fferm trwy farchnata cydweithredol i’r archfarchnadoedd a phrynwyr mawr eraill (mae gennym bolisi ‘Lleol yn Gyntaf’ sy’n galluogi aelodau i gyflenwi eu marchnadoedd lleol cyn cyflenwi’r Grŵp)
- Chwilio am farchnadoedd newydd y tu hwnt i’r sector archfarchnadoedd
- Lleihau costau’r fferm trwy swmp-brynu mewnbynnau a gwasanaethau
- Galluogi gwell rheoli trwy feincnodi ariannol a rheoli, monitro proffidioldeb, gwybodaeth dechnegol ac yn y blaen .
- Dod â sefydlogrwydd a strwythur i’r farchnad eidion a defaid organig i alluogi symud anifeiliaid stôr yn broffidiol ac yn effeithlon trwy brisio sy’n fwy rhagweladwy.
- Dylanwadu ar y farchnad da byw a chig organig ehangach er budd ein haelodau
YCHWANEGU GWERTH AT Y GADWYN BWYD
Mae Cynhyrchwyr y Graig yn amcanu at wella effeithlonrwydd marchnata gwartheg tewion i’r sector manwerthu lluosog trwy sicrhau’r ansawdd gorau a chyflenwi cyson. Nid yw’n ddigon i grŵp marchnata cynhyrchwyr fodoli er ei fwyn ei hun – rhaid iddo ychwanegu gwerth at y gadwyn fwyd.
Rydym yn gwneud hyn trwy gynrychioli buddiannau ein haelodau mewn nifer o feysydd:
- Mae Grŵp Datblygu Eidion a Defaid Organig yn grŵp unigryw o gynhyrchwyr a holl gyrff ardystio organig y DU sy’n monitro lefelau cynhyrchu eidion a defaid organig;
- Amcan y Bwrdd Masnach Organig yw cynyddu’r farchnad organig trwy wahanol weithgareddau. Mae Grŵp y Graig yn cynrychioli’r sector cig a physgod organig ar y Bwrdd Masnach Organig.
- Cynadleddau . Yn aml, gofynnir i Grŵp y Graig siarad mewn gwahanol gynadleddau, ac mae’n gallu tynnu ar brofiad ein haelodaeth. Byddwn hefyd yn trefnu cynadleddau a chyfarfodydd i’n haelodau ac eraill ar faterion sydd o ddiddordeb i ffermwyr organig.
Y DARLUN CENEDLAETHOL
Mae Cynhyrchu da byw a marchnata effeithlon yn gofyn am ymagwedd gydgysylltiedig. Mae hyn yn golygu :
- Yn ddaearyddol — Mae gennym gysylltiadau da ar draws y sector cig organig yn y DU. Chwaer-grŵp yw Graig Producers South West i dde-orllewin Lloegr. Rydym yn cynrychioli buddiannau Caledonian Organics yn yr Alban. Rydym yn gweithio’n agos â’r prif gyrff ardystio a sefydliadau ymchwil
- O fewn y gadwyn fwyd , nid yn unig bod gennym berthynas weithio dda â’r proseswyr, ond rydym hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â’r prif archfarchnadoedd a’u proseswyr
- Mae swmp yn siarad – mae dylanwad yn y farchnad yn dibynnu ar farchnata sympiau mawr gan ein haelodaeth sylweddol.